Mae pedwerydd bachgyn mam 26 oed o Nigeria wedi cael ei roi mewn gofal, wedi cyfres o wrandawiadau llys teulu yn Newcastle-upon-Tyne.

Y gred yw fod y fam wedi gwneud cais am loches yng ngwledydd Prydain, ond bod ei chais wedi’i wrthod.

Fe gafodd dau fab hyna’r wraig eu mabwysiadu chwe blynedd yn ôl. Fe gafodd ei thrydydd mab, 2 oed, ei fabwysiadu 16 mis yn ôl. A nawr, mae barnwr wedi dweud y dylai’r pedwerydd mab, sy’n wyth mis oed, gael ei fabwysiadu hefyd.

Chafodd y fam ddim ei henwi, ond yn ôl y barnwr, Cyngor Dinas Sunderland sydd â chyfrifoldeb am les y bychan. Nododd y barnwr fod y fam blant gan dri dyn gwahanol.