Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi dweud bod pasport hyd at 50 o jihadwyr wedi cael eu tynnu oddi arnyn nhw.

Daeth y cyhoeddiad ar drothwy cyhoeddi strategaeth gwrth-frawychiaeth newydd.

Ers 2013, mae 30 o bobol wedi colli eu pasport yn barhaol, tra bod 20 wedi’i golli dros dro o dan reolau newydd a ddaeth i rym ddechrau’r flwyddyn i atal pobol rhag teithio i Syria.

Dywedodd Theresa May wrth bapur newydd y Sunday Times y bydd y strategaeth newydd yn llymach ar ddarlledwyr wrth iddyn nhw roi amser ar yr awyr i glerigwyr ac eithafwyr.

Dywedodd: “Byddwn ni’n edrych ar ddeddfwriaeth i amharu ar weithgarwch eithafol ond rwy wedi atal mwy o bregethwyr casineb nag unrhyw Ysgrifennydd Cartref blaenorol rhag dod i mewn i’r wlad o gwbl.”

Mae 97 wedi cael eu gwahardd rhag dod i wledydd Prydain ers 2010, ac roedd hi’n gyfrifol am alltudio Abu Qatada ac Abu Hamza.

Pwysleisiodd Theresa May gyfrifoldeb prifysgolion wrth atal brawychiaeth yn dilyn deddfwriaeth newydd.

“Mae gofyniad arnyn nhw i atal pobol rhag cael eu tynnu i mewn i frawychiaeth.”

Cadarnhaodd hi fod 40 o ymchwiliadau i ymddygiad brawychol ar y gweill ar draws Ewrop.