Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad wedi i ddau o bobol farw yn dilyn ffrwydrad mewn uned ddiwydiannol yn Swydd Hertford ddydd Sadwrn.
Mae’r heddlu a swyddogion iechyd a diogelwch yn ymchwilio i’r ffrwydrad yn Hoddesdon.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle am 4.42yp.
Bu farw dyn yn ei 30au a dyn arall yn ei 40au yn yr ysbyty’n ddiweddarach.
Mae dyn yn ei 20au wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty erbyn hyn.