Mae Syr Terry Wogan wedi cwestiynu’r modd y caiff y BBC ei ariannu, gan godi cwestiynau am werth ffi’r drwydded deledu.

Dywed y darlledwr 77 oed, sydd wedi gweithio i’r Gorfforaeth ers hanner canrif, yr hoffai weld newidiadau cyn cyflwyno’r siartr newydd y flwyddyn nesaf.

Dywedodd wrth gylchgrawn y Mail on Sunday nad yw darlledu’n fater syml erbyn hyn.

“Nid mater o gael darlledwr cenedlaethol yw hi ragor. Rhaid bod marc cwestiwn dros ffi’r drwydded bellach, oherwydd bod arferion gwylio’n wahanol.

“Dydy pobol ifanc ddim yn gwylio’r teledu rhagor, maen nhw’n gwylio’u iPads.”

Ond ychwanegodd y byddai colli’r BBC “fel colli’r teulu brenhinol”.

Dydy Wogan ddim wedi cadarnhau a oedd e’n un o’r bobol a gafodd eu gwahodd i arwyddo llythyr yn galw ar Lywodraeth Prydain i beidio torri’r Gorfforaeth yn gynharach eleni.

Eisoes, mae nifer o aelodau blaenllaw’r llywodraeth wedi codi amheon am ddyfodol y BBC. Yn eu plith mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale a’r Canghellor George Osborne.

Mae angen i’r BBC wneud arbedion o hyd at 20% erbyn 2020, er eu bod nhw’n colli arian sylweddol o ffi’r drwydded wrth i’w gwasanaethau ar-lein ddatblygu.

Mae cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Tony Hall eisoes wedi dweud bod toriadau’n anochel.