Fe ddaeth bachgen 14 oed o wledydd Prydain o fewn dyddiau i gyflawni’r ymsodiad terfysgol mwya’ gwaedlyd yn Awstralia – a hynny ar ddiwrnod i anrhydeddu dynion a menywod a oedd wedi rhoi’u bywydau mewn rhyfeloedd.

Roedd y bachgen –  o Blackburn, Swydd Gaerhirfryn, wedi dod o hyd i gymuned jihad trwy ddefnyddio ei ffon symudol i fynd ar y we. Roedd yn cael trafferthion yn yr ysgol ar y pryd, clywodd y Llys y Goron Manceinion heddiw, ac roedd y gymuned hon wedi llwyddo i lenwi rhyw “wacter” yn ei fywyd.

O fewn pythefnos i sefydlu cyfri’ ar wefan gymdeithasol Twitter, roedd gan y bachgen 24,000 o ddilynwyr, ac fe lwyddodd i greu delwedd ffantasiol ohono’i hun nes ei fod wedi dod yn “seleb tros nos” o fewn y gymuned jihad hon.

Aeth yn ei flaen, clywodd y Llys y Goron Manceinion wedyn, i gynllwynio ymosodiad ar gyfer gorymdaith ‘Anzac Day’ yn ninas Melbourne ym mis Ebrill eleni – a hynny o ystafell wely cartre’ ei rieni.