Mae toriadau’r Canghellor George Osborne yng nghyllid yr heddlu yn peryglu diogelwch y cyhoedd, yn ôl prif gwnstabliaid.

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid Heddlu (NPCC) wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn pwyso ar y llywodraeth i fod yn fwy ‘realistig’ ynghylch rhagor o doriadau ariannol.

Maen nhw’n rhybuddio y bydd toriadau o fwy na chwarter yng nghyllidebau heddluoedd erbyn 2020 yn golygu na fydd unrhyw blismyn i’w gweld ar y stryd mewn rhai ardaloedd.

Fe fyddai llai o blismyn yn golygu cynnydd sylweddol mewn troseddu gan y byddai gwaith atal troseddu yn dioddef, ac fe fyddai llai o blismyn ar gael hefyd mewn argyfyngau fel terfysgoedd, rhybuddiia’r penaethiaid.

“Mae prif gwnstabliaid yn hynod bryderus am effaith yr adolygiad ar wario,” meddai pennaeth yr NPSS, Sara Thornton.

“Maen nhw’n hynod o bryderus y bydd graddfa’r toriadau, ynghyd â newidiadau i’r ffordd mae grantiau’n cael eu dosbarthu, yn achosi newid sylfaenol i blismona yn y wlad yma.

“Ein gobaith yw y bydd yr adolygiad gwariant yn realistig am y lefel o doriadau pellach y gall yr heddlu eu cymryd heb effeithio’n negyddol ar ddiogelwch ein dinasyddion.”