Tyrau gorsaf bwer Cockenzie yn cael eu dymchwel heddiw
Roedd  miloedd o bobol wedi troi allan i wylio dau gorn simdde pwerdy’n cael eu dymchwel yn yr Alban amser einio heddiw.

Fe ddaeth tyrau 149m Gorsaf Bwer Cockenzie yn East Lothian i lawr ganol dydd, gydag ail ffrwydriad yn dinistrio neuadd y tyrbinau ar y safle yn syth wedyn.

Dim ond cwt y boiler sy’n sefyll yno bellach – ac mi fydd yntau’n cael ei ddymchwel yn ddiweddarach eleni.

Fe gafodd y cyrn simdde eu codi ar gyfer yr orsaf lo yn 1967, ac ar y pryd dyma’r orsaf bwer fwya’ yn yr Alban.

Fe ddaeth y ddwy simdde i lawr gyda’i gilydd, wedi i Donald McCulloch bwyso’r botwm – roedd wedi ennill y fraint fel gwobr mewn raffl.