Mae tân mawr mewn mosg yn ne Llundain, ac mae 70 o ymladdwyr yn y fan a’r lle yn ceisio lladd y fflamau yn ardal Morden.

Mae Brigâd Dân Llundain wedi cadarnhau for 10 o griwiau wedi’u hanfon i addoldy Baitul Futuh, a bod y tân yn llosgi llawr daear a llawr cynta’r adeilad.

Fe gafodd y gwasanethau brys eu galw gan aelod o’r cyhoedd toc wedi hanner dydd heddiw.

Mae hi’n “llawer rhy gynnar” ar hyn o bryd i ddweud beth yw achos y tân, meddai llefarydd ar ran y frigâd.