Mae cyrff dau o bobol wedi cael eu darganfod yn dilyn ffrwydrad mewn tŷ yn Swydd Derby.

Cafodd y cyrff eu darganfod mewn ystafell wely yn yr adeilad yn Riddings ger Alfreton, ond dydy eu marwolaethau ddim yn cael eu trin fel rhai amheus.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad yw’r ddau wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol eto, ond mae lle i gredu mai’r cwpl oedd yn byw yn y tŷ ydyn nhw.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd wedi achosi’r ffrwydrad.