Mae’r gwasanaethau brys yn chwilio am bobol a allai fod y tu fewn i adeilad yn dilyn tân a ffrwydrad yn Swydd Derby fore Sul.

Cafodd ffrwydrad ei glywed gan gymdogion ym mhentref Riddings ger Alfreton yn ystod yr oriau man.

Roedd yr adeilad ar dân erbyn i ddiffoddwyr gyrraedd am 7.30 y bore, a chafodd y to a rhannau helaeth o’r adeilad eu dinistrio.

Mae cymdogion wedi cael eu symud o’r neilltu ac mae ymchwiliad ar y gweill, tra bod diffoddwyr yn parhau i chwilio am bobol y tu fewn i’r adeilad.