Mae beiciwr ar gefn motorbeic oedd wedi’i gofrestru yn y Wladwriaeth Tsiec, wedi marw ar ol taro i mewn i bolyn telegraff yn Swydd Stafford.

Mae’r heddlun ceisio dod o hyd i deulu’r dyn – sydd rhwng 25 a 35 oed – yn dilyn y ddamwain yn Branston, ger Burton-on-Trent, tua 4.30yb heddiw.

Fe gafodd ambiwlans, parafeddyg a swyddog cefnogi parafeddyg eu hanfon i safle’r ddamwain, ond roedd y beiciwr modur wedi marw yn y fan a’r lle.