Mae pedwar o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o gynllwynio i herwgopio, wedi i ddau ddyn ofyn i ddisgybl ysgol 13 oed fynd efo nhw yn eu fan ddydd Iau.

Fe gafodd swyddogion Heddlu Gogledd Swydd Efrog eu galw i Ripon tua 3.15yp ddydd Iau, wedi i ddynion mewn fan wen dargedu’r arddegyn.

Fe gafodd yr ardal ei chwilio’n drylwyr er mwyn ceisio dod o hyd i’r dynion ac, am 4.20yp, fe ddaethpwyd o hyd i fan Ford Transit wen ar ffordd yr A61. Fe gafodd y fan ei chornelu ger pentre’ Harewood.

Roedd pedwar o ddynion – 36, 26, 22 a 20 oed – yn y fan, ac roedd pob un yn hanu o ardal Gorllewin Swydd Efrog. Fe gawson nhw eu harestion ar amheuaeth o gynllwynio i herwgipio, ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa.