Karen Buckley, a laddwyd ym mis Ebrill eleni gan Alexander Pacteau
Mae llofrudd y fyfywraig o Iwerddon, Karen Buckley, yn apelio yn erbyn ei ddedfryd.

Fe gafodd Alexander Pacteau, 21, ei garcharu am leiafswm o 23 mlynedd, wedi iddo gyfadde’ colbio’r fyfyrwraig gyda sbaner ym mis Ebrill eleni. Fe aeth ati wedyn i geisio cael gwared ar y corff trwy ei doddi mewn casgen yn llawn cemegion.

Wrth ei ddedfrydu yn gynharach y mis hwn, fe ddywedodd y Barnwr, yr Arglwyddes Rae, ei fod wedi cyfawni “ymosodiad creulon, dideimlad a direswm ar ddynes ifanc ddiniwed”.

Ond mae Alexander Pacteau bellach wedi cwblhau’r gwaith papur angenrheidiol a’u cyflwyno i’r Llys Apêl Troseddol yng Nghaeredin, gyda’r bwriad o gael treulio llai o gyfnod dan glo.