Mae teithiwr wedi’i gludo i’r ysbyty yn un o hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru, wedi damwain ffordd yn Swydd Amwythig.

Fe gafodd pump o bobol eraill eu hanafu hefyd yn y digwyddiad ar ffordd yr A528 ger Harmer Hill, lle bu car a bws mewn gwrthdrawiad tua 3.25yp ddoe.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans y West Midlands wedi cadarnhau fod pump o bobol oedd yn teithio yn y car wedi’u cludo i ysbytai yn Amwythig, Telford a Stoke-on-Trent, yn diodde’ anafiadau amrywiol.

Ymysg y rheiny gafodd eu hanafu yr oedd dyn 19 oed a gafodd ei ryddhau o’r car gan y criwiau ymladd tân yn defnyddio offer arbenigol. Mae gwraig yn ei 80au wedi diodde’ anafiadau i’w choesau a’i hwyneb.