MI5
Mae pennaeth asiantaeth cudd wybodaeth Prydain, MI5 wedi rhybuddio fod y bygythiad gan frawychwyr sy’n cynllwynio yn erbyn Prydain ar ei uchaf ers tri degawd.

Dywedodd Andrew Parker ei fod yn cefnogi pwerau newydd i oruchwylio  cyfathrebiadau.  Mewn cyfweliad gyda rhagen Today ar BBC Radio 4 dywedodd fod y we fyd eang a thechnoleg newydd yn profi’n her i’w asiantaeth wrth daclo’r bygythiad, a bod gan gwmnïau fel Facebook a Twitter “gyfrifoldeb” i rannu gwybodaeth.

Fe ddywedodd nad oedd gan MI5 ddiddordeb mewn “chwilio trwy fywydau preifat” aelodau o’r cyhoedd ac y dylai’r rheolau weithio o fewn fframwaith cyfreithiol tryloyw.

Bu Andrew Parker yn ceisio lleddfu pryderon am eithafwyr yn cyrraedd Ewrop, ymhlith y llif o ffoaduriaid sy’n dod o Syria.

Ychwanegodd bod yr heddlu a’r gwasanaethau cudd wedi atal chwe chynllwyn brawychol yn y DU dros y 12 mis diwethaf a bod y bygythiad yn cynyddu.

“Dyna’r nifer uchaf y gallaf eu cofio yn ystod fy ngyrfa dros gyfnod o 32 mlynedd, yn bendant y nifer uchaf ers 9/11,” meddai.

“Mae’n peri bygythiad sy’n parhau i gynyddu, yn bennaf oherwydd y  sefyllfa yn Syria a sut mae hynny’n effeithio ein diogelwch.”