Mae dwy ddynes o wledydd Prydain a gafodd eu lladd yn dilyn damwain trên yng ngogledd India ddydd Sadwrn wedi cael eu henwi.

Mae’r wasg yn India’n dweud mai Loraine Toner a Joan Nickolas, sy’n 60 oed, yw’r ddwy fu farw.

Dydy’r Swyddfa Dramor ddim wedi cadarnau eu henwau eto.

Daeth naw coets oddi ar y cledrau wrth i’r trên deithio o Kalka i Shimla yn yr Himalaya am 1 o’r gloch brynhawn Sadwrn.

Roedd 36 o deithwyr ac un rheolwr teithiau ar y trên ar y pryd, a chafodd nifer driniaeth am anafiadau.

Mae cynrychiolwyr o’r cwmni teithiau o Gaerefrog wedi teithio i India i gynnig cymorth.

Dydy achos y ddamwain ddim yn hysbys ar hyn o bryd.

Gadawodd y daith ar Fedi 10, ac roedd disgwyl i deithwyr ddychwelyd i wledydd Prydain ar Fedi 22.