Yvette Cooper
Yn ystod dadl frys yn y Senedd heddiw, mae gwleidyddion wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ailystyried faint o ffoaduriaid y bydd yn derbyn i’r wlad eleni.

Fe gyhoeddodd David Cameron brynhawn ddoe y byddai Prydain yn derbyn 20,000 o ffoaduriaid erbyn 2020, sef tua 4,000 y flwyddyn.

Ond, fe ddywedodd Yvette Cooper, ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, a llefarydd materion cartref y blaid, nad yw cynnig lloches ar gyfer 4,000 o ffoaduriaid eleni’n unig yn ddigon.

“Mae’r argyfwng yn digwydd nawr”, meddai.

‘Adlewyrchu’r duedd’

“Gallwn wneud mwy na hyn”, meddai Yvette Cooper, ac awgrymodd y dylai’r Llywodraeth gysylltu â chynghorau ac elusennau i asesu’r cymorth y maen nhw’n ei ddarparu.

Byddai hyn yn fodd i osod y targed ynglŷn â faint y gall Prydain ei dderbyn yn ystod y flwyddyn gyntaf hon.

Dywedodd bod ymdrech gwirfoddolwyr ac unigolion ar draws y wlad yn brawf fod Prydain am wneud mwy ac, am hynny, dylai’r Llywodraeth adlewyrchu’r duedd hon.

Fe ddywedodd David Burrowes, Aelod Seneddol y Ceidwadwyr, y gallai Prydain ymateb i alwadau Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR) gan ailgartrefu hyd at 30,000 o ffoaduriaid erbyn diwedd 2016.

“Troi cefn”

Dywedodd Yvette Cooper hefyd y dylai Prydain dderbyn pobol sydd eisoes wedi cyrraedd Ewrop.

Roedd Alistair Carmichael hefyd yn cytuno pan ddywedodd fod gwahaniaethu rhwng ffoaduriaid yn Ewrop â’r rhai sydd yn dal mewn gwersylloedd yn Syria yn “ffals” ac yn “sarhaus”.

“Fedrwn ni ddim sefyll nôl a gwylio’r cyfan yn digwydd. Fedrwn ni ddim troi ein cefnau”, meddai Yvette Cooper.

Awgrymodd y dylai’r Llywodraeth hefyd weithredu i helpu ffoaduriaid mewn gwledydd fel Irac, Eritrea, Somalia a Libya.

Ffigwr eleni

 

Ni allai’r Ysgrifennydd Cartref gyhoeddi, serch hynny, faint yn union o ffoaduriaid y bydd Prydain yn ei dderbyn eleni.

Dywedodd Theresa May y byddai’r Llywodraeth yn parhau i gydweithio â’r UNHCR er mwyn sicrhau bod y rhai sydd mewn risg difrifol yn cael blaenoriaeth.

“Ond, mae’n ddrwg gen i na fedra’i gyhoeddi’r ffigwr ar gyfer y flwyddyn gyntaf hon”.