Fe fydd y BBC yn cynnig rhoi staff a chynnwys i bapurau newydd lleol, a chaniatáu i raglenni gorsafoedd eraill gael eu dangos ar eu gwasanaeth gwylio eto fel rhan o gynlluniau i ddiwygio’r Gorfforaeth.

Fe allai’r cynlluniau gynnwys sefydlu rhwydwaith o oddeutu 100 o ohebwyr a fyddai’n cydweithio â’r BBC.

Mae cynlluniau ar droed hefyd i gyflwyno gwasanaeth iPlay a gwasanaeth a fyddai’n cysylltu’r BBC gyda’r Amgueddfa Brydeinig, y Tate a chwmni Royal Shakespeare.

Mae disgwyl i Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Tony Hall roi ei ymateb cyntaf i arolwg Llywodraeth Prydain o siarter y BBC heddiw.

Daw’r ymateb wrth i’r Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale gynnal ymgynghoriad ar opsiynau i ddisodli ffi’r drwydded.

Mae’r Canghellor George Osborne eisoes wedi beirniadu gwefan y BBC am “fod yn imperialaidd yn ei huchelgais”, ac fe allai gael ei chwtogi’n sylweddol er mwyn amddiffyn papurau lleol.

‘Moderneiddio’

Yn ei araith, mae disgwyl i’r Arglwydd Hall ddweud: “Gadewch i fi fod yn glir, mae BBC Agored filiwn o filltiroedd o fod yn uchelgais i ehangu. Yn wir, i’r gwrthwyneb.

“Fe ddaw o’r gred fod rhaid i’r BBC wneud hyd yn oed mwy ar gyfer Prydain ar y cyfan.”

Ychwanegodd mai ei nod yw “gwneud darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn well drwy ei foderneiddio”.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Mae twf newyddion ar-lein wedi cael effaith fawr ar y diwydiant newyddion lleol. Tra nad yw’r BBC wedi achosi hynny, ry’n ni’n credu bod newyddion lleol yn hanfodol ar gyfer democratiaeth gref ac rydym am fod yn rhan o’r ateb.”

Mae’r Sunday Telegraph yn dweud bod y BBC yn ystyried dyfodol BBC Four ar draul dramâu newydd i gystadlu â Netflix ac Amazon.

Ond does dim disgwyl i’r Arglwydd Hall gyhoeddi heddiw fod unrhyw wasanaeth yn dod i ben.

I’r gwrthwyneb, mae disgwyl cyhoeddiad y bydd gwasanaethau ieithoedd tramor yn cael eu hymestyn.