Mae 20 o geir ar eu ffordd o wledydd Prydain i Calais fel rhan o ymdrechion i gynnig cymorth dyngarol i ffoaduriaid yno.

Mae’r ceir yn cludo bwyd, dillad a llochesi i filoedd o bobol sydd wedi symud i Ewrop yn sgil gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ac Affrica.

Elusen ‘Stand Up to Racism’ sydd wedi trefnu’r cymorth gwerth £6,000.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen fod agwedd Llywodraeth Prydain ynghylch y sefyllfa’n “warthus”.

Mae nifer o elusennau a grwpiau eraill hefyd yn helpu i gludo nwyddau i Ffrainc.

Mae bar yn Portsmouth wedi casglu digon o nwyddau i lenwi chwe fan, ac mae cynlluniau ar y gweill i sefydlu elusen swyddogol er mwyn ehangu’r cymorth maen nhw’n ei gynnig.

Fe fydd criw o bobol yn casglu pebyll fydd wedi’u gadael ar safle gŵyl Bestival ar Ynys Wyth y penwythnos nesaf.

Ac fe fydd casgliadau mewn nifer o gemau pêl-droed yn ystod yr wythnos nesaf.

Cododd elusen Achub y Plant fwy na £500,000 o fewn 24 awr yn sgil cefnogaeth gan awduron megis Patrick Ness a David Nicholls.

Dywedodd llefarydd ar ran Achub y Plant: “Mae empathi’r cyhoedd am y ffoaduriaid mewn argyfwng sy’n peryglu eu bywydau i gyrraedd diogelwch Ewrop wedi bod yn anhygoel, dylai’r cyhoedd ym Mhrydain fod yn falch.”

Yn y cyfamser, mae Maer Bryste, George Ferguson wedi annog trigolion i agor eu drysau i groesawu ffoaduriaid i mewn i’w cartrefi.

“Mae gan Fryste draddodiad hir a balch o groesawu pobol y bu’n rhaid iddyn nhw symud oherwydd gwrthdaro ac fel dinas noddfa, rydyn ni’n ceisio parhau â’r traddodiad hwnnw.”

Fe fydd ymgyrchwyr yn cynnal protestiadau yn Llundain ddydd Sadwrn nesaf er mwyn dwyn perswâd ar Lywodraeth Prydain i dderbyn rhagor o ffoaduriaid.