Mae hwyliwr amatur o wledydd Prydain wedi marw wrth iddo gymryd rhan mewn ras o amgylch y byd.

Cafodd Andrew Ashman, 49, ei daro’n anymwybodol gan raff wrth hwylio yn y ras ‘Clipper’ oddi ar arfordir Portiwgal, ac fe fu farw’n ddiweddarach.

Roedd Ashman yn gweithio fel parafeddyg yn Llundain.

Yn dilyn ei farwolaeth, fe dalodd yr hwyliwr a sylfaenydd y ras, Syr Robin Knox-Johnston deyrnged iddo.

“Dyma newyddion trist iawn ac mae fy nghalon gyda’i deulu a’i ffrindiau yn eu galar, ac i’w griw sydd wedi dod i adnabod Andrew a’i hoffi’n fawr yn ystod ei hyfforddiant a dyddiau cynnar y ras hon.”

Dyma’r tro cyntaf i unrhyw un farw tra’n cymryd rhan yn y ras.

“Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth o hyd, fel mae ein record yn dangos, ac fe fyddwn yn ymchwilio i’r digwyddiad ar unwaith wrth gydweithredu’n llawn â’r awdurdodau.”

Gadawodd Andrew Ashman, oedd yn hwyliwr profiadol, fel rhan o fflyd o Lundain ddydd Sul diwethaf, ac roedd disgwyl iddo fod yn cystadlu yn y ras am hyd at flwyddyn.