Mae dynes 33 oed a gafodd ei harestio yn Nhwrci ddydd Mawrth wedi cael ei chyhuddo o gipio plant.

Mae lle i gredu bod Zahera Tariq yn bwriadu teithio i Syria gyda’i phedwar o blant wedi iddi ddiflannu o’i chartref yn Walthamstow yng ngogledd-ddwyrain Llundain yr wythnos diwethaf.

Bydd hi’n ymddangos gerbron ynadon yn Camberwell Green yn ddiweddarach heddiw.

Dywedodd Heddlu Llundain fod y ddynes wedi’i chyhuddo yn dilyn ymchwiliad gan heddlu gwrth-frawychiaeth.

Cafodd ei holi gan yr heddlu wedi iddi gael ei harestio ym maes awyr Luton nos Iau.

Mae lle i gredu bod y teulu wedi hedfan o Lundain i Amsterdam ar Awst 25.

Mae’r plant rhwng pedair a 12 oed, ac roedd gwrandawiad ddoe i benderfynu ynghylch dyfodol hirdymor y plant.

Mae’r plant yng ngofal teulu maeth am y tro.