Subis a'i mwnci bach
Mae mwnci prin wedi ei eni yn Sŵ Gaer heddiw i fam 28 oed o’r enw Subis.

Dim ond tua 6,500 o orangwtaniaid Sumatran brodol sydd ar ôl yn eu hamgylchfyd naturiol ar Ynys Sumatra yn Indonesia.

Yn ôl Sŵ Gaer mae bodolaeth y mwncïod hyn dan fygythiad ar yr ynys oherwydd eu bod yn cael eu hela a hefyd bod coedwigoedd yn cael eu torri lawr.

Meddai Tim Rowlands, curadur mamaliaid Sŵ Gaer: “Fe gafodd Subis ei geni yma yn 1986 ac ers hynny mae wedi geni pedwar o rai bach, ond dyma’r orangwtan Sumatran cyntaf i’w eni yma ers ychydig dan dair blynedd felly mae’r tîm wedi gwirioni’n lân.”