Mae pennaeth Byddin Prydain wedi addo chwynnu bwlio ac aflonyddu rhywiol o’i rhengoedd – ond mae hefyd wedi mynnu nad oes unrhyw ymgais i droi milwyr yn “giwed wleidyddol gywir”.

Dywedodd Syr Nick Carter na all y fyddin ddioddef ymddygiad annerbyniol a fu’n destun honiadau o gamwahaniaethu yn y gorffennol.

Yn ôl pennaeth y Fyddin mae côd ymddygiad newydd yn cael ei gyflwyno er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff yn cael ei dderbyn “mewn ffordd gynhwysol”.

“Nid wyf yn dadlau o blaid bod yn wleidyddol gywir,” meddai Syr Nick Carter wrth Radio 4 y BBC.

“Rydw i’n dadlau yw ein bod yn byw yn ôl ein gwerthoedd a’n safonau ac yn derbyn pawb mewn ffordd gynhwysol.”

Mae’r pennaeth hefyd wedi ymrwymo i recriwtio mwy o filwyr croenddu, Asiaidd a rhai o leiafrifoedd ethnig – bu’r nifer yn isel hyd yma.

Daw’r côd ymddygiad i rym yn dilyn pryderon y llynedd bod y drefn gwynion o fewn y Fyddin yn ddiffygiol.