Mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron gyhoeddi cynlluniau heddiw i gynyddu nifer y ffoaduriaid sy’n cael dod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

Nid oes sôn am ffigur penodol eto ond mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn y gorffennol y bydd y DU yn parhau i dderbyn “miloedd”.

Bydd David Cameron yn gwneud y cyhoeddiad ym Madrid ar ôl trafodaethau gydag arweinwyr Sbaen a Phortiwgal am gynigion Prydain i ddiwygio’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i’r ffoaduriaid ychwanegol ddod o wersylloedd y Cenhedloedd Unedig yn agos i Syria, ac nid o blith y rhai sydd eisoes yn Ewrop.

Galwadau cynyddol

Mae’r llywodraeth wedi bod dan bwysau i dderbyn rhagor o ffoaduriaid ac fe wnaeth y galwadau ddwysau ar ôl i lun o fachgen tair oed o Syria, Alan Kurdi oedd wedi boddi ar lannau traeth yn Nhwrci ysgwyd y byd.

Anhrefn Budapest

Yn y cyfamser, mae miloedd o ffoaduriaid ym mhrif ddinas Hwngari o hyd. Er i’r awdurdodau yno ail-agor yr orsaf, maen nhw hefyd wedi cyhoeddi na fydd neb yn cael teithio i unrhyw le heb gael eu ‘cofrestru’.

Mae hyn wedi achosi tensiwn mawr yn y brifddinas rhwng y rhai sy’n ceisio am loches a’r heddlu yno.

Croesawu’r ‘tro pedol’

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi croesawu penderfyniad y Prif Weinidog,

“Mae’n rhaid croesawu tro pedol y Prif Weinidog. Ni allwn anwybyddu’r creisis hon rhagor,” meddai mewn datganiad.

“Dylai’r Prif Weinidog nawr weithio’n agos gyda llywodraethau datganoledig i sicrhau bod pob un o genhedloedd y DU yn  derbyn ei chwota teg o ffoaduriaid. Mae hyn yn fater o argyfwng.”

Ymateb Amnest

Mae’r elusen hawliau dynol, Amnest Rhyngwladol wedi dweud bod penderfyniad y llywodraeth yn ‘gam mawr ymlaen’.

Er hyn, mae’r elusen wedi nodi ei siom nad yw’r llywodraeth wedi gwneud rhywbeth yn gynt.

“Mae bellach pedwar miliwn o ffoaduriaid wedi ffoi o Syria, mae’r rhan fwyaf helaeth yn byw yn Nhwrci, Libanus a gwlad yr Iorddonen, yn aml dan amodau gwael iawn,” meddai Steve Symonds, arbenigwr ffoaduriaid Amnest.

“Mae cymryd ein siâr deg o ffoaduriaid yn hanfodol, dyma’r argyfwng dyngarol mwyaf ers yr ail ryfel byd. Amser a ddengys os bydd David Cameron yn gweithredu ei ymrwymiadau i fynd i’r afael â’r creisis hon.”