Y teulu ar eu ffordd i Amsterdam
Mae mam sy’n cael ei hamau o gynllwynio i deithio i Syria gyda’i phedwar o blant, wedi cael ei harestio wrth ddychwelyd i wledydd Prydain.

Fe gafodd Zahera Tariq, 33, ei dwyn i’r ddalfa yn Twrci ddydd Mawrth, ynghyd â’i meibion Muhammad, 12; Amaar, 11;  Aadid, 4; a’i merch Safiyyah, 9.

Neithiwr, fe gafodd ei harestio ar amheuaeth o gipio plant, wedi iddi ddychwelyd ar awyren o Istanbul i faes awyr Luton. Mae ei phedwar o blant dan ofal yr heddlu.

Fe gafodd y fam a’i phlant eu riportio ar goll o’u cartre’ yn Walthamstow yng ngogledd-ddwyrain Llundain, yr wythnos ddiwetha’. Y gred oedd eu bod wedi teithio o faes awyr dinas Llundain i Amsterdam ar Awst 25. Fe ddaeth ditectifs o hyd i luniau teledu cylch-cyfyng ohonyn nhw cyn iddyn nhw fynd ar yr awyren i’r Iseldiroedd.