Y Canghellor George Osborne
Mae nifer y ffoaduriaid sy’n cael dod i wledydd Prydain yn cael ei adolygu, yn ôl y Canghellor George Osborne.

Daw’r datganiad ar ôl i luniau brawychus o blentyn o Syria wedi boddi yn Nhwrci ddod i’r amlwg.

Dywedodd Osborne fod gwledydd Prydain wedi derbyn ceiswyr lloches “go iawn” erioed, gan gynnwys 5,000 o ffoaduriaid o Syria ac y byddai’r drefn honno’n parhau.

Mae gwleidyddion wedi cael eu beirniadu am y ffordd y maen nhw wedi mynd ati i geisio datrys y sefyllfa.

‘Angen newid polisi’

Dywedodd David Cameron ei fod wedi’i ysgwyd o weld lluniau o’r bachgen bach oedd wedi boddi ar draeth yn Nhwrci, gan ychwanegu y byddai Prydain yn sicr o gyflawni “ei chyfrifoldebau moesol.”

Eisoes, fe ddywedodd y Prif Weinidog na fyddai derbyn rhagor o bobol i wledydd Prydain yn ateb i’r broblem, ac mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod bod yn rhan o drefn lle fyddai wedi derbyn degau o filoedd o geiswyr lloches gan Wlad Groeg, Hwngari a’r Eidal.

Mae’r Ceidwadwyr wedi galw ar Cameron i newid ei bolisi, tra bod y Blaid Lafur wedi ei annog i drefnu cyfarfod brys o bwyllgor Cobra a chyfarfod o arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â threfnu dadl yn San Steffan.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, wedi dweud bod yn rhaid i’r DU fod yn fodlon i “gymryd ei siâr” o ffoaduriaid sy’n chwilio am loches.

 

‘Dim ateb syml’

Dywedodd George Osborne: “Ro’n i ofidus iawn pan welais i [y lluniau] y bore ma drosof fy hun, y bachgen druan yn gorwedd yn farw ar y traeth.

“Fe wyddom nad oes ateb syml i’r argyfwng yma, a’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn y lle cyntaf yw herio IS a’r gangiau o droseddwyr a laddodd y bachgen hwnnw.

“Rhaid i chi sicrhau bod y cymorth yn parhau i ddod – rydyn ni wedi neilltuo £1 biliwn o gymorth tramor i helpu’r bobol yma yn eu hargyfwng.

“Ac wrth gwrs, fe fu Prydain yn gartref erioed i geiswyr lloches go iawn, ffoaduriaid go iawn.

“Rydyn ni wedi derbyn 5,000 o bobol yn sgil gwrthdaro Syria, byddwn ni’n parhau i dderbyn pobol ac adolygu’r sefyllfa.

“Mae Prydain wedi bod ar flaen y gad ac mi fyddwn yn parhau i wneud hynny.”