Dyn yn achub dynes ger ynys Rhodes, Gwlad Groeg
Mae un o brif swyddogion y Cenhedloedd Unedig wedi galw ar Lywodraeth Prydain i dderbyn rhagor o ffoaduriaid o Syria.

Bellach, mae rhagor o bwysau ar arweinwyr gwleidyddol Ewrop i ymateb yn dilyn cyhoeddi lluniau o fachgen wedi boddi ar draeth yn Nhwrci.

Cafodd y bachgen ei enwi gan wasg Twrci fel Aylan Kurdi, oedd wedi ffoi’r llynedd gyda’i deulu rhag y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae adroddiadau’n awgrymu bod ei fam a’i frawd wedi marw ond bod ei dad wedi goroesi.

Mae lle i gredu eu bod nhw ymhlith 23 o bobol oedd wedi gadael mewn dau gwch o Bodrum yn Nhwrci ddydd Mercher.

Dywedodd Peter Sutherland o’r Cenhedloedd Unedig fod rhai gwledydd yn “ysgwyddo’r baich yn fawr iawn”, ond y gallai’r DU “wneud mwy” i ddatrys y broblem.

‘Dychrynllyd’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain fod y lluniau’n “ddychrynllyd” a’u bod nhw’n benderfynol o gynnig cymorth.

Daeth ei sylwadau wedi i Brif Weinidog Prydain, David Cameron fynnu nad derbyn rhagor o ffoaduriaid i wledydd Prydain yw’r ateb i’r sefyllfa.

Ond mae pwysau ar Cameron i newid ei feddwl, wrth i un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Andy Burnham alw am ddadl ynghylch y mater.

Mae nifer y plant sydd wedi derbyn gofal ers ffoi i wledydd Prydain wedi cyrraedd 720, sy’n gynnydd o oddeutu 100 yn y mis diwethaf.

Dywed Cyngor Swydd Gaint nad oes ganddyn nhw ragor o wlâu maeth i’w cynnig yn y sir bellach, a hynny wrth i nifer y bobol sy’n mynd i Loegr o Calais gynyddu’n sylweddol.

Ymateb Llafur

Dywedodd Andy Burnham: “Dros yr haf, rydyn ni wedi gweld argyfwng dyngarol enfawr yn datblygu dros Fôr y Canoldir ac ar diroedd Ewrop.

“Ond mae ymateb David Cameron a’i gyfoedion wedi gwyro o fod yn annigonol i fod yn gyfeiliornus.

“Mae diffyg ymateb ei Lywodraeth wrth i’r sefyllfa gynyddu’n staen ar gydwybod ein cenedl.

“Pe bai’r Prif Weinidog yn gwrthod ymateb, yna fy ngham cyntaf fel arweinydd fyddai gwneud cais i’r Llefarydd am ddadl frys ar yr argyfwng ffoaduriaid.”

Mae un arall o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth Llafur, Yvette Cooper wedi awgrymu y gallai’r DU dderbyn hyd at 10,000 o ffoaduriaid o Syria.

Dems Rhydd yn beirniadu

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron fod gwrthod derbyn mwy nag ychydig gannoedd o ffoaduriaid yn “anghywir yn foesol” ac yn “ffolineb gwleidyddol”.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon fod rhaid i wledydd Prydain “wneud mwy” ynghylch y sefyllfa.

Ar raglen Newsnight, dywedodd Peter Sutherland fod angen ymateb unedig gan Ewrop gyfan.

Dywedodd: “Dw i’n credu y gallai’r wlad hon wneud mwy. Yr unig ffordd o ddatrys y broblem hon yw ymateb unedig o du Ewrop ac mae hynny’n golygu rhannu’r cyfrifoldeb am ddioddefaint gwarthus.

“Mae hwn yn argyfwng dyngarol nad yw Ewrop wedi’i brofi yn ystod ein hoes ac sy’n galw am ymateb cyffredin.”