Rebekah Brooks
Mae Rebekah Brooks wedi cael ei phenodi yn brif weithredwr News UK, sy’n cyhoeddi papurau newydd y Sun, y Times a’r Sunday Times.

Mae’n dilyn suon diweddar fod cyn-olygydd y News of the World yn dychwelyd i gwmni Rupert Murdoch, pedair blynedd ar ôl iddi ymddiswyddo yn dilyn yr helynt hacio ffonau.

Cafwyd Brooks yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau yn ei herbyn yn dilyn achos llys yn yr Old Bailey.

Daeth papur dydd Sul y News of the World i ben o ganlyniad i’r sgandal a bu’n rhaid i  Rupert Murdoch a’i fab James Murdoch wynebu pwyllgor seneddol.

Bydd cyn-olygydd y Daily Telegraph, Tony Gallagher yn dod yn olygydd papur newydd y Sun.

‘Braint’

Fe fydd Brooks yn dechrau ar ei swydd newydd ddydd Llun.

Dywedodd ei bod yn “fraint” cael dychwelyd i News UK.

Ond mae’r grŵp ymgyrchu Hacked Off wedi mynegi eu “syndod” bod Brooks wedi cael dychwelyd i News UK.

A dywedodd Aelod Seneddol y Rhondda Chris Bryant bod Murdoch wedi “codi dau fys ar y cyhoedd a’r miloedd o bobl yr oedd News International wedi hacio eu ffonau.”

Cafodd ffon  yr AS ei hacio gan newyddiadurwyr y News of the World.

Ychwanegodd Chris Bryant  bod Rebekah Brooks yn cael “triniaeth arbennig” a bod ei phenodiad yn dod “yn llawer rhy fuan” mewn cyfnod pan mae ymchwiliadau’n parhau i’r helynt hacio ffonau.