Mae dyn 42 mlwydd oed wedi’i arestio y bore yma yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu Gogledd Iwerddon i lofruddiaeth Kevin McGuigan fis diwethaf.
Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn ymchwilio i’r honiad y gallai aelodau sy’n cael eu hamau o fod yn rhan o’r IRA fod â chysylltiad â’r achos.
Mae’r digwyddiadau hyn wedi achosi “argyfwng gwleidyddol” yng ngogledd Iwerddon gydag Unoliaethwyr Ulster (UUP) yn ystyried rhoi’r gorau i rannu grym gweithredol gogledd Iwerddon.
‘Dial’
Mae’r heddlu’n credu mai dial am yr ymosodiad ar y cyn Gadlywydd Gerard “Jock” Davison oedd llofruddiaeth Kevin McGuigan yn Nwyrain Belfast.
“Mae ditectifs o’r Gangen Troseddau Difrifol yn ymchwilio i lofruddiaeth Kevin McGuigan ac wedi arestio dyn 42 oed yn Nwyrain Belffast y bore yma”, meddai John McVea o Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon.
Dyma’r ddeuddegfed ddedfryd fel rhan o’r ymchwiliad.
“Argyfwng gwleidyddol”
Fe ddywedodd y Prif Gwnstabl, George Hamilton fod yr IRA Dros Dro yn dal i fodoli ac fe dybir bod rhai o’i haelodau yn gysylltiedig â llofruddiaeth y tad i naw a laddwyd fis diwethaf.
Mae’r digwyddiadau hyn oll wedi achosi “argyfwng gwleidyddol” yn Stormont gan ysgogi’r Unoliaethwyr Democrataidd i alw ar David Cameron i ymyrryd ac atal pwerau datganoli i’r Llywodraeth ym Melfast gan sicrhau trefniadau newydd a chynnal arolygiad annibynnol ar gadoediad yr IRA.
Mae sefydliad gwleidyddol Gogledd Iwerddon “wedi’i hysgwyd”, a hynny yn dilyn cadarnhad Sinn Fein fod yr IRA wedi “mynd i ffwrdd”.