Safle'r ddamwain yn Shoreham
Wrth agor  cwest i farwolaethau 11 o bobl yn namwain sioe awyr Shoreham, fe ddywedodd y crwner mewn gwrandawiad yn Horsham, Gorllewin Sussex heddiw y byddai’n cynnal “ymchwiliad llawn.”

Dywedodd Penelope Schofield bod yn rhaid cynnal adolygiad cyn y cwest llawn am fod ymchwiliadau eraill yn parhau i’r ddamwain ar Awst 22.

Yn y cyfamser, mae teulu un o’r rhai fu farw yn y ddamwain wedi dweud ei fod “yn y lle iawn ar yr amser anghywir”.

Roedd  James Graham Mallinson, 72 oed o Newick, wedi mynd i sioe awyr Shoreham i dynnu llun taith olaf awyren Vulcan pan fu farw yn y ddamwain.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad, “Roedd yn ddyn addfwyn a charedig a oedd yn aml yn rhoi ei amser i helpu eraill.

“Roedd yn lle iawn ar yr amser anghywir, yn gwneud beth oedd yn ei fwynhau fwyaf ar ddiwrnod prydferth o haf.”

Fe gafodd rhestr lawn o enwau’r rhai a fu farw eu cadarnhau yn swyddogol cyn cynnal munud o dawelwch yn ystod y gwrandawiad.

Mae’r Crwner wedi pennu mis Mehefin nesaf fel dyddiad dros dro i’r cwest llawn. Bydd adolygiad cyn y cwest yn cael ei gynnal ar 22 Mawrth  y flwyddyn nesaf.

.

Mae gweddillion yr awyren wedi cael eu symud i Farnborough yn Swydd Hampshire lle mae ymchwilwyr i’r ddamwain yn ceisio canfod be aeth o’i le.