Chuka Umunna
Mae Chuka Umunna wedi galw ar ei gyd-aelodau yn y Blaid Lafur i gefnogi ei harweinydd newydd mewn ymgais i gymodi ag adain chwith y blaid sy’n cefnogi’r ffefryn am yr arweinyddiaeth, Jeremy Corbyn.

Mae ysgrifennydd busnes y blaid, a wnaeth rhoi’r gorau i’w le yn y ras am ei harweinyddiaeth, wedi mynnu bod yn rhaid i’r blaid dderbyn y canlyniad a “chefnogi ein harweinydd newydd i ddatblygu agenda a all gael Llafur yn nôl mewn grym.”

Ychwanegodd hefyd na ddylai’r blaid hepgor yr ASau a’r aelodau sy’n feirniadol o Lafur Newydd.

“Fel unrhyw lywodraeth, gwnaeth Llafur Newydd gamgymeriadau – gallai a dylai wedi cyflawni mwy, ac wedi gwneud mwy i herio rhagdybiaethau’r asgell dde am y byd.

“Yn y diwedd, nid yw’n afresymol i fod yn uchelgeisiol am yr hyn gall eich plaid ei gyflawni wrth wella cydraddoldeb, rhyddid, democratiaeth a chynaliadwyedd.”

 

Galw ar gyn-gynghorydd Obama i ddod nôl

Yn ôl Chuka Umunna, un o brif ‘wendidau’ Llafur Newydd oedd ei rheolaeth ganolog, wrth iddo alw ar gyn-gynghorydd a threfnydd cymunedol Barack Obama, Arnie Graf i ail-afael yn ei rôl gyda’r blaid er mwyn ennill tir newydd.

“Mae mwy na hanner miliwn o bobl bellach yn aelodau, yn gefnogwyr neu’n gefnogwyr cyswllt o’n plaid, gyda channoedd ar filoedd yn ymuno o fewn yr wythnosau diwethaf,” meddai.

“Mae rhai wedi ymuno er mwyn rhwystro Llafur ond mae llawer mwy wedi ymuno oherwydd eu bod yn credu yng ngwerthoedd y blaid, ac mae hynny’n cynnwys llawer o bobl ifanc.

“Ar adeg lle mae llawer o bobl ifanc ddim hyd yn oed yn pleidleisio, heb sôn am ymuno â phlaid, mae hyn yn sicr yn rhywbeth i ddathlu,” meddai yn ei araith i’r felin drafod, Policy Network.

 

Corbyn a’i sylwadau am Osama Bin Laden

Yn y cyfamser, fe wnaeth Jeremy Corbyn gyhuddo newyddiadurwyr o ‘gam-adrodd’ ei sylwadau a oedd yn ymddangos iddo awgrymu fod lladd Osama Bin Laden yn drasiedi.

“Y pwynt roeddwn yn ei wneud oedd ei fod yn anterth o gyfres o ddigwyddiadau ofnadwy ar hyd y rhanbarth,” meddai.

Beirniadodd Jeremy Corbyn yr awdurdodau yn yr UDA am ladd Osama Bin Laden yn hytrach na’i roi ar brawf.

Gwnaeth ei sylwadau yn 2012 yn fuan ar ôl i dîm o’r lluoedd arbennig fynd i le cuddiedig Osama Bin Laden, a oedd yn bennaeth ar al Qaida, a’i saethu’n farw yn y fan a’r lle.

Mae Jeremy Corbyn yn un o bedwar ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur. Y tri arall yw Andy Burnham, Yvette Cooper a Liz Kendall. Caiff yr arweinydd newydd ei gyhoeddi ar 12 Medi.