David Cameron
Fe allai penderfyniad Prydain i wrthod cymryd rhagor o ffoaduriaid niweidio cynlluniau David Cameron i ddiwygio’r berthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd, meddai llefarydd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel.

Dywedodd Stephan Mayer bod safiad Prydain i wrthod rhannu’r baich wrth i filoedd o ffoaduriaid ddod i Ewrop, niweidio ei pherthynas gyda’r Almaen a chynlluniau’r Prif Weinidog i adennill pwerau o Frwsel.

Dywed yr Almaen ei bod yn disgwyl derbyn 800,000 o geiswyr lloches eleni tra bod Prydain yn derbyn 25,771 o geisiadau am loches yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2015, yn ôl y Swyddfa Gartref.

Dywedodd Stephan Mayer, llefarydd materion cartref  yr Almaen wrth y Times, bod yn rhaid i Brydain helpu i leihau baich y “trychineb dyngarol enfawr”  neu fe allai David Cameron golli cefnogaeth i’w gynlluniau.

Daeth ei sylwadau wrth i’r ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Yvette Cooper, alw ar Brydain i agor ei drysau i ragor o ffoaduriaid o Syria, gan ddadlau y dylai fod yn bosib cymryd tua 10,000 o geiswyr lloches.

Yn ol Yvette Cooper, mae methiant Prydain i gynnig lloches i bobl sy’n ceisio ffoi rhag eithafwyr IS yn “anfoesol”.