Blodau ger safle damwain sioe awyr Shoreham
Mae disgwyl i gwest i farwolaethau 11 o bobl yn namwain sioe awyr Shoreham gael ei agor a’i ohirio heddiw.

Fe fydd enwau’r 11 o bobl fu farw yn cael eu cyhoeddi’n swyddogol yn ystod y gwrandawiad yn Neuadd y Sir yn Horsham, Gorllewin Sussex bore ma.

Mae teuluoedd y rhai fu farw wedi cael gwahoddiad i’r gwrandawiad gan grwner Gorllewin Sussex Penelope Schofield.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ôl i awyren Hawker Hunter blymio i ffordd yr A27 gan daro yn erbyn cerbydau.