Alistair Carmichael
Bydd yr her gyfreithiol a wnaed yn erbyn yr Aelod Seneddol, Alistair Carmichael, yn cael ei darlledu’n fyw ar deledu’r Alban (STV) yr wythnos nesaf.

Credir mai dyma’r tro cyntaf i wrandawiad llys gael ei ddarlledu’n fyw ar deledu yn yr Alban.

“Mae hyn yn ddatblygiad pwysig”, meddai Gordon Macmillan, Pennaeth newyddion STV a bydd yn “cynnig mewnwelediad pwysig ar yr achos”, ychwanegodd.

Caiff y gwrandawiad ei gynnal ddydd Llun a dydd Mawrth nesaf yng Nghaeredin, a bydd modd dilyn yr achos yn fyw ar wefan STV.

“Amgylchiadau arbennig”

 

Daeth Gwasanaeth y Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban (SCTS) i gytundeb â STV i ddarlledu’r gwrandawiad am ei fod yn achos o “amgylchiadau arbennig”.

Etholwyd Alistair Carmichael yn Aelod Seneddol i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Orkney, Ynysoedd y Shetland yn ystod etholiadau mis Mai 2015.

Ond, fe wnaeth etholwyr Orkney gyflwyno deiseb yn erbyn yr Aelod Seneddol wedi i ymchwiliad ddangos ei fod yn gysylltiedig â’r memo a ryddhawyd fis Ebrill am Nicola Sturgeon.

Roedd y memo hwnnw’n honni fod y Prif Weinidog am weld David Cameron a’r Ceidwadwyr yn ennill yr Etholiad Cyffredinol.

Mae’n debyg fod Alistair Carmichael wedi cyfaddef iddo ganiatáu i’w gynghorydd arbenigol ryddhau’r memo a ymddangosodd yn y Daily Telegraph ar 3 Ebrill 2015.

‘Ffrydio’n fyw’

Mae’r her gyfreithiol yn cyfateb â Deddf Cynrychiolaeth y Bobol 1983, sy’n nodi ei bod hi’n drosedd i ryddhau “datganiad anwir” am ymgeisydd etholiadol.

Am fod “amgylchiadau arbennig” i’r achos, penderfynwyd y byddai’r gwrandawiad yn cael ei gynnal yng Nghaeredin yn hytrach nag yn etholaeth yr Aelod Seneddol.

Bydd yr achos yn cael ei ffrydio’n fyw gan STV a’i rannu ymysg amryw o gyfryngau eraill.

“Fe fydd hyn yn galluogi etholwyr Orkney, Ynysoedd a Shetland a phobol ar draws y DU i weld yr achos”, meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth y Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban (SCTS).