David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi derbyn cyngor y Comisiwn Etholiadol ynghylch y cwestiwn fydd ar bapurau pleidleisio adeg y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd Cameron yn ffafrio cwestiwn oedd yn gofyn i bleidleiswyr nodi ‘Ie’ neu ‘Na’, ond dywed y Comisiwn y byddai hynny’n arwain at amheuon fod y cwestiwn yn rhagfarnllyd.

Mae’r Comisiwn yn argymell gofyn y cwestiwn ‘A ddylai’r Deyrnas Unedig barhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?’.

Mae disgwyl i’r refferendwm gael ei gynnal cyn diwedd 2017.

Fe fydd gwelliant yn cael ei gyflwyno i’r Bil ar y refferendwm pan fydd y Senedd yn cyfarfod ar Fedi 7.

Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, fe fyddai’r cwestiwn gwreiddiol ‘A ddylai’r Deyrnas Unedig barhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd?’ wedi annog pobol i bleidleisio ‘Ie’.

‘Dewis clir’

Dywedodd llefarydd swyddogol David Cameron: “Byddwn yn derbyn argymhelliad y Comisiwn Etholiadol gan gyflwyno gwelliant i’r Bil fel bo’n briodol.

“Fe fu amcan y Prif Weinidog yn eglur o’r dechrau’n deg – rhoi dewis clir a syml i bawb.

“Rydym yn credu y bydd hynny’n cael ei gyflawni o hyd gydag argymhelliad y Comisiwn Etholiadol heddiw.”

Wrth groesawu’r newid, dywedodd arweinydd UKIP, Nigel Farage fod y mater yn “symud i’r cyfeiriad cywir”.