Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan y Comisiynydd Gwybodaeth i weld a yw elusennau a chwmnïau ar draws DU yn prynu a gwerthu manylion personol pobol.

Mae’r ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn honiadau fod gŵr oedrannus wedi’i dwyllo allan o filoedd o bunnoedd.

Mae papur newydd y Daily Mail yn honni fod manylion personol Samuel Rae, gŵr 87 mlwydd oed, wedi’u trosglwyddo cannoedd o weithiau i elusennau a hyd yn oed i rai cwmnïau sy’n gysylltiedig â sgamiau.

Digwyddodd hyn wedi iddo anghofio ticio yn y blwch mewn holiadur ffordd o fyw dros 21 o flynyddoedd yn ôl.

O ganlyniad, collodd Samuel Rae, cyn-gyrnol i’r fyddin, bron £35,000.