Mae Awdurdod Olew a Nwy Prydain wedi cymeradwyo cais i ddatblygu maes nwy anferth ym Môr y Gogledd.

Yn ôl y cwmni y tu ôl i’r datblygiad maes Culzean yn yr Alban, Maersk Oil, mae disgwyl y bydd yn cynhyrchu digon o nwy i gyflenwi 5% o holl anghenion Prydain erbyn 2020/21.

Dyma’r maes nwy mwyaf i gael ei gymeradwyo yn yr Alban ers East Bray yn 1990.

Wrth groesawu’r newydd, dywedodd Canghellor y Trysorlys, George Osborne fod hyn “yn arwydd clir fod Môr y Gogledd yn agored i fusnes”.

Dywed Maersk Oil fod disgwyl y bydd y prosiect yn helpu cynnal tua 6,000 o swyddi ac yn creu dros 400 o swyddi uniongyrchol newydd.