Mae dyn 48 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes wedi iddo ymosod arni ym Manceinion y bore ma.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn ardal Newton Heath y ddinas am 12.45 y bore ma, lle daethon nhw o hyd i ddynes 48 oed oedd wedi cael anafiadau difrifol i’w phen.

Ceisiodd parafeddygon roi triniaeth iddi ond bu farw yn ddiweddarach.

Mae’r dyn yn parhau yn y ddalfa ac mae’n cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio.

Dydy’r ddynes ddim wedi cael ei hadnabod yn ffurfiol, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal yn ddiweddarach.