Mae’r mwyafrif o bobol a gafodd eu holi fel rhan o arolwg newydd o blaid Tŷ’r Arglwyddi etholedig.
Cafodd yr arolwg ei gynnal gan gorff ‘People and Power’ cyn i 45 o Arglwyddi newydd gael eu penodi gan eu pleidiau’r wythnos diwethaf.
Dywedodd 52% o’r bobol wnaeth ymateb eu bod nhw’n teimlo y dylai Arglwyddi gael eu penodi “bob amser”.
Mae adroddiadau’n awgrymu bod Prif Weinidog Prydain, David Cameron yn agored i ddiwygio’r ddeddfwriaeth bresennol, er bod ei blaid wedi’i wrthwynebu yn 2012.
Fel rhan o’r arolwg, cafodd 2,147 o oedolion eu holi.
Dywedodd 67% nad ydyn nhw’n teimlo fel pe bai ganddyn nhw ddylanwad dros benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar eu rhan.
Roedd 59% o blaid datganoli rhagor o bwerau i gynghorau lleol.
Dywedodd 52% fod y system etholiadol wedi dyddio, a dywedodd 27% yn unig fod y drefn bresennol yn un ddemocrataidd.
Yn y rhagair i’r adroddiad, dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson: “Mae pob gwleidydd yn pregethu am bwysigrwydd ymrwymo’r cyhoedd fwyfwy wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio’u bywydau ond tan nawr, ry’n ni wedi derbyn gwybodaeth annigonol am agwedd y cyhoedd ynghylch a ydyn nhw’n teimlo bod y fath sentiment yn un go iawn ac, yn wir, i ba raddau y dylid distyllu’r pŵer yma.”
Galwodd ar yr awdurdodau i roi ystyriaeth i ganlyniadau’r arolwg.