Mae pobol yn eu harddegau sy’n gweld eu hunain fel ‘Goths’ yn fwy agored i ddioddef iselder neu hunan anafu, yn ôl gwyddonwyr.

Mae ymchwil a gyhoeddwyd yng nghylchgrawon y Lancet Psychiatry Journal wedi canfod fod pobol ifanc 15 oed sy’n rhan o’r diwylliant o wisgo du a defnyddio lot o golur, yn dair gwaith mwy tebygol i ddioddef iselder ysbryd ac yn bum gwaith mwy tebygol o anafu eu hunain pan maen nhw’n cyrraedd 18 oed.

Dywedodd un o’r prif awduron, Dr Lucy Bowes o Brifysgol Rhydychen, “Nid yw’r astudiaeth yn dangos fod bod yn ‘Goth’ yn achosi iselder neu hunan-anafu, ond hytrach mae’n dangos fod Goths ifanc yn fwy agored i ddatblygu’r cyflyrau hyn.”