Nigel Farage
Mae Prydain nawr yn wlad “heb ffiniau” yn ôl Nigel Farage, wedi i’r ffigyrau diweddaraf ddangos bod mwy o fewnfudwyr nag erioed yn dod i’r DU.

Mynnodd arweinydd UKIP bod cael mwy o bwerau dros fewnfudo yn rhan allweddol o ail-drafod perthynas y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.

Ond mae elusen i warchod hawliau mewnfudwyr wedi dweud bod y targedau pendant y mae’r Llywodraeth yn ei osod ar gyfer lleihau’r niferoedd yn gwneud y sefyllfa’n anoddach.

Ac yn ôl elusen ffoaduriaid, prin iawn yw’r baich mae Prydain yn ei ysgwyddo o’i gymharu â gwledydd Ewropeaidd eraill pan mae’n dod at gynnig lloches.

Farage yn amau

Mae’r rhan fwyaf o fewnfudwyr a symudodd i Brydain dros y cyfnod yn weithwyr sydd wedi dod o’r Undeb Ewropeaidd.

Fe awgrymodd Nigel Farage y gallai’r ffigyrau mewnfudo fod hyd yn oed yn uwch na’r 330,000 a gyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) heddiw.

“Mae’r ffigyrau yma’n adlewyrchu Prydain heb ffiniau ac anallu llwyr Llywodraeth Prydain,” meddai arweinydd UKIP.

“Os nad yw ffiniau agored yn rhan o aildrafod Cameron [cyn refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd] wedyn beth yw pwrpas y peth?

“Gan fod 192,000 o Rwmania a Bwlgaria wedi cofrestru ar gyfer Yswiriant Gwladol yn ystod yr un cyfnod, sut allwn ni gredu ffigwr yr ONS o 53,000 o’r ddwy wlad yn yr un flwyddyn?”

‘Cau allan gweddill y byd’

Mae’r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno Bil Mewnfudo er mwyn taclo gweithwyr anghyfreithlon, ond yn ôl elusen Rhwydwaith Hawliau Ymfudwyr dyw e ddim yn debygol o wneud gwahaniaeth.

“Rydyn ni’n gwybod fod polisïau sydd wedi cael eu cyflwyno dros y pum mlynedd diwethaf ddim wedi cael effaith mawr ar y niferoedd a dyw’r awgrymiadau polisi fydd yn y Bil mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei chyflwyno dros yr wythnosau nesaf ddim yn wahanol,” meddai Don Flynn, cyfarwyddwr yr elusen.

“Mae consensws eang nad yw’r targed ymfudo net yn helpu o gwbl ac na ddylai gael ei ddefnyddio i lywio polisi yn y dyfodol.

“Mae’n rhaid i’r llywodraeth benderfynu ble mae hi am fynd yn y dyfodol. Ydi hi am fod yn wlad sydd yn edrych allan ac sy’n croesawu myfyrwyr, gweithwyr ac aelodau teulu o dramor, neu ydi hi am gau ei hun i ffwrdd o weddill y byd wrth geisio cyrraedd ffigwr?”

Ychwanegodd Stephen Hale, prif weithredwr elusen Refugee Action,  bod yr Almaen yn derbyn “tua 30 gwaith yn fwy o geisiadau lloches” gan ffoaduriaid ag y mae Prydain ar hyn o bryd.