Mae nifer y miliwnyddion ym Mhrydain wedi cynyddu o 41% dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl ymchwil newydd.

Yn ôl Map Ffyniant Barclays UK mae 715,000 o filiwnyddion yn byw ym Mhrydain nawr o’i gymharu â 508,000 yn 2010, a hynny yn bennaf oherwydd i gynnydd sylweddol mewn prisiau tai a stoc y farchnad.

Dangosodd y ffigyrau hefyd bod gan Lundain fwy o filiwnyddion na Chymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gogledd Lloegr gyda’i gilydd.

Roedd Caerdydd yn seithfed ar y rhestr o ddinasoedd mwyaf llewyrchus yn y Deyrnas Unedig, yr unig un o Gymru yn y deg uchaf.

Pob ardal yn gweld cynnydd

Llundain a De Ddwyrain Lloegr sydd yn parhau i fod yr ardaloedd mwyaf ffyniannus gyda’r nifer uchaf o filiwnyddion, gyda Dwyrain Lloegr yn drydydd.

Ond fe ddangosodd y ffigyrau bod bron i hanner (48%) y miliwnyddion newydd ers 2010 yn byw y tu allan i Lundain a’r De Ddwyrain.

Roedd pob rhanbarth yn gyfoethocach nag yr oedden nhw bum mlynedd yn ôl, meddai’r ymchwil, ac roedd Cymru a Gogledd Ddwyrain Lloegr wedi gweld cynnydd o 50% yn eu miliwnyddion, y mwyaf o’r holl ardaloedd.

Ar ôl Llundain, y dinasoedd mwyaf llewyrchus yn ôl y ffigyrau yw Reading, Caergrawnt, Birmingham, Bryste, Leeds, Caerdydd, Manceinion, Lerpwl a Newcastle.