Blodau ger safle'r ddamwain yn Shoreham
Mae person arall fu farw yn namwain sioe awyr Shoreham wedi cael ei enwi wrth i’r ymchwiliadau i’r hyn a achosodd y trychineb barhau.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod Mark Reeves, 51, ymhlith 11 o bobl a fu farw yng ngorllewin Sussex penwythnos diwethaf.

Dywedodd ei deulu mewn datganiad y bydd colled enfawr ar ei ôl gan gymaint o bobl.

Mae ffordd brysur yr A27 lle plymiodd yr awyren i’r ddaear wedi bod ynghau ers y ddamwain ond mae Heddlu Sussex yn dweud bod disgwyl iddi  ailagor ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.

DNA

Dywedodd uwch grwner Gorllewin Sussex, Penny Schofield, fod y broses o adnabod dioddefwyr yn ffurfiol wedi dechrau – ond mae arbenigwyr yn gorfod archwilio’r DNA, dannedd ac olion dynol i ddarganfod pwy a laddwyd yn y trychineb.

Mae’r awyren wedi cael ei gludo i Farnborough, Hampshire lle bydd yr Adran Ymchwiliadau i Ddamweiniau Awyr (AAIB) yn archwilio’r gweddillion. Mae disgwyl i adroddiad dros dro gael ei gyhoeddi yn y dyddiau nesaf.

Cafodd peilot yr awyren, Andrew Hill, ei roi mewn coma gan feddygon yn dilyn y ddamwain ond mae nawr wedi cael ei symud i ysbyty arbenigol i dderbyn triniaeth.

Sioeau awyr

Ac yn dilyn penderfyniad yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) i gyflwyno cyfyngiadau llym ar sioeau awyr dros dir mewn hen awyrennau yn sgil y ddamwain, mae nifer o sioeau awyr fel un ym Maes Awyr Durham Tees Valley ddydd Sadwrn wedi cael eu gohirio.

Ond er gwaetha’r cyfyngiadau, bydd nifer o sioeau tebyg yn parhau i gael eu cynnal gyda newidiadau dros benwythnos Gwyl y Banc gan gynnwys un yn Dunsfold, Surrey, ac un arall yn Dartmouth, Dyfnaint.

Mae’r heddlu hefyd wedi cyhoeddi enwau pedwar o ddynion oedd ymhlith y rhai a laddwyd.

Yn eu plith roedd pêl-droedwyr Worthing United, Matthew Grimstone a Jacob Schilt, ill dau yn 23 oed, a oedd ar eu ffordd i chwarae gêm pan gawsant eu lladd.

Roedd yr hyfforddwr personol, Matt Jones, 24 oed hefyd ymhlith y rhai fu farw yn ogystal â’r chauffeur Maurice Abrahams, 76, o Brighton a oedd ar ei ffordd i gludo priodferch i’w phriodas.

Mae’r beiciwr modur, Mark Trussler, a Daniele Polito, tad o Worthing, ill dau ar goll ac mae’n debyg eu bod nhw wedi cael eu lladd yn y trychineb.