Mae arweinydd Sinn Fein, Gerry Adams yn mynnu bod yr IRA “wedi mynd i ffwrdd”, er bod Heddlu Gogledd Iwerddon yn amau bod y mudiad yn bodoli o hyd.

Dywed Adams fod aelodau’r IRA wedi rhoi’r gorau i wirfoddoli fel rhan o’r broses heddwch.

Ond mae lle i gredu bod gan yr IRA ran yn llofruddiaethau dau weriniaethwr blaenllaw, Jock Davison a Kevin McGuigan.

Mae Adams wedi wfftio’r amheuon.

“Roedd lladd Jock Davison a Kevin McGuigan yn anghywir. Dydy’r rheiny oedd ynghlwm ddim yn cynrychioli gweriniaetholdeb. Nid yr IRA ydyn nhw. Mae’r IRA wedi mynd i ffwrdd.”

Daeth ymgyrch yr IRA i ben yn swyddogol yn 1995 ac ers hynny, fe gafodd aelodau orchymyn i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd gwleidyddol a democrataidd yn unig.

Mae’r sylw yn adlais o’r hyn ddywedodd Adams yn 1995 y tu allan i Neuadd y Ddinas yn Belfast, sef nad oedd y mudiad “wedi mynd i ffwrdd”.

Mae Gerry Adams wedi cyhuddo gwrthwynebwyr o fanteisio ar lofruddiaethau Davison a McGuigan i ymosod yn “sinigaidd” ar Sinn Fein.

Dywedodd yr heddlu wrth y wasg fod aelodau’r IRA yn gyfrifol am y llofruddiaethau, ond na chafodd y weithred ei hawdurdodi gan y mudiad.