Mae’r berthynas rhwng y BBC a’r Swyddfa Dywydd yn dod i ben yn dilyn trafodaethau aflwyddiannus tros gytundeb newydd.

Bu’r Swyddfa Dywydd yn cydweithio â’r Gorfforaeth ers 90 o flynyddoedd, ond fe fydd cwmni newydd yn cymryd at y gwaith y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i gwmnïau o’r Iseldiroedd a Seland Newydd wneud cais am y cytundeb.

Mae nifer o wleidyddion wedi mynegi eu siom a’u pryderon ynghylch y penderfyniad i chwilio am gwmni newydd.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Andrew Bridgen wrth y Mail on Sunday: “Mae pawb yn deal fod rhaid i’r BBC dorri costau. Ond fe fydd rhaid darbwyllo’r cyhoedd y gall y cwmni newydd ddarogan anwadalwch y tywydd Prydeinig, yn enwedig os yw’n ddarparwr o dramor.”

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Diwylliant, Ben Bradshaw, sy’n gyn-newyddiadurwr y BBC, wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ymyrryd.

Daeth y Swyddfa Dywydd o dan y lach sawl gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf wedi iddi ddarogan “haf y barbeciw” yn 2009, ond roedd glaw trwm trwy gydol yr haf hwnnw yn y pen draw.

Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd y llynedd y byddai’n gwario £97 miliwn ar gyfrifiadur newydd.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd eu bod nhw’n cynnig cefnogaeth i’w staff a allai gael eu heffeithio gan y penderfyniad.

Er gwaetha’r ffaith fod y cytundeb yn dod i ben, fe fydd y BBC yn parhau i ddibynnu ar rybuddion y Swyddfa Dywydd am dywydd garw.