Gerry Adams, llywydd Sinn Fein
Mae llywydd Sinn Fein, Gerry Adams, wedi mynnu nad oes gan yr IRA ran mewn llofruddiaeth yn ninas Belffast.

Gydag asesiad gan Wasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yr wythnos hon yn awgrymu fod yr IRA yn rhan o’r weithred o ladd y tad i naw o blant, Kevin McGuigan, fe ddaeth galwadau gan rai y dylai plaid Sinn Fein golli ei lle wrth fwrdd llywodraeth glymblaid y Stormont.

“Mae yna lawer iawn o sylwebu wedi bod,” meddai Gerry Adams, “ond doedd yr IRA ddim yn rhan o’r lladd.

“Fe ddaeth Sinn Fein i mewn i’r drefn wleidyddol… ac fe gafodd hyn i gyd ei wneud fel rhan o drefn a allai greu heddwch go iawn, ac fel rhan o Gytundeb Gwener y Groglith.

“Mae’r rheiny sy’n bygwth gweithredu’n erbyn Sinn Fein yn y Cynulliad ac ar y Pwyllgor gwaith, yn gwneud hynny heb unrhyw sail. Mae mandad Sinn Fein, a hawliau ein hetholwyr, yn haeddu’r un parch ag y mae pob plaid arall yn ei chael.”