Mae Heddlu’r West Midlands wedi cael mwy o amser i holi dyn a dynes sy’n cael eu hamau o lofruddio dynes 20 oed ag anableddau dysgu.

Fe ddaeth ditectifs o hyd i gorff Susan Whiting yn Walsall ddydd Mawrth. Doedd neb wedi ei gweld hi’n fyw ers amser cinio dydd Llun.

O ganlyniad, fe gafodd dyn, 34, a dynes, 35, eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae’r heddlu wedi cael 36 awr ychwanegol er mwyn holi’r pâr, wedi i brawf post mortem gael ei wneud yn ddiweddarach heddiw i benderfynu sut fuodd Susan Whiting farw.