Bydd angladd Cilla Black yn cael ei gynnal heddiw yn Lerpwl.

Ymysg y rhai fydd yno i dalu teyrnged i’r gantores a chyflwynydd fydd Syr Cliff Richard fydd yn canu ei gân, ‘Faithful One’, ar ddechrau’r gwasanaeth i ddathlu ei bywyd.

Bydd yr angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair yn Woolton lle dderbyniodd Cilla Black fendith ar ei phriodas â Bobby Willis yn 1969.

Bydd sêr eraill o fyd teledu, fel ei ffrind Christopher Biggins, yn cymryd rhan yn y gwasanaeth yn ogystal â’r digrifwyr Jimmy Tarbuck a Paul O’Grady.

Bu farw Cilla Black yn 72 oed yn ei chartref gwyliau yn Sbaen ar Awst 1.

Daeth i enwogrwydd yn y 1960au fel cantores gyda chaneuon fel Anyone Who Had A Heart a You’re My World, cyn cyflwyno cyfresi teledu Blind Date a Surprise Surprise.