Banc y Co-op (CCA 2.0)
Mae Banc y Co-operative wedi rhybuddio y bydd yn aros yn y coch tan o leia’ 2017, wrth iddo gyhoeddi colledion o  £204 miliwn yn ystod hanner cynta’ eleni.

Mae’r golled yn llawer uwch na’r £77 miliwn flwyddyn ôl a chyhoeddodd y banc y byddai’n parhau i weld colledion drwy gydol 2015 a fwy na thebyg yn 2016 hefyd.

Ond mae’r Co-op yn mynnu bod perfformiad y busnes craidd wedi dechrau sefydlogi a bod benthyca morgeisi yn gwella – mae wedi cau tua hanner ei ganghennau.

Adroddiad damniol

Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi yn dilyn adroddiad damniol yr wythnos diwethaf a ddywedodd fod Banc y Co-operative wedi camarwain buddsoddwyr ac wedi cadw rheoleiddwyr yn y tywyllwch pan fu bron i’r hwch fynd trwy’r siop

Yn ôl yr adroddiad, roedd diffygion difrifol wedi bod yn y ffordd yr oedd y banc yn cael ei reoli o Orffennaf 2009 hyd at Rhagfyr 2013.

Er gwaetha’r colledion heddiw, dywedodd prif weithredwr Banc y Co-op, Niall Booker, ei fod yn ffyddiog y bydd pethau’n newid.