Mae sarjant wedi’u gael yn ddieuog o gamymddwyn, wedi cyhuddiadau ei fod wedi defnyddio grym gormodol wrth geisio atal carcharor ifanc.

Roedd Stephen Chilton, o Heddlu Swydd Nottingham, wedi defnyddio modd gwahanol o atal y bachgen 17 oed trwy afael am ei wddw, tra’r oedd y carcharor yn y ddalfa yn Bridewell ar Ionawr 9, 2014.

Dyma’r tro cynta’ i’r panel camymddwyn eistedd yn gyhoeddus yn Swydd Nottingham.

Fe glywodd y panel fod y Rhingyll Chilton wedi gafael yn y dyn ifanc am 56 o eiliadau, ac fe ddangoswyd lluniau teledu cylch cyfyng o’r heddwas hefyd yn rhoi dwrn iddo yn ei stumog.

Roedd y llanc yn cael ei ystyried yn beryg iddo’i hun, ac fe ddangoswyd lluniau ohono’n symud y fatres o’i wely yn y gell ac yn ei gosod dros ei ben ac yn rhwystro mynediad i neb trwy ddrws y gell.

Ond fe ddaeth y Sarjant Chilton i mewn, ac fe fu’r ddau’n ymrafael, cyn i’r carcharor wrth i heddweision eraill ddod yno i helpu. Y cyhuddiad oedd fod yr heddwas wedi gafael yng ngwddw’r carcharor am yn rhy hir.

Fe gafwyd y Rhingyll yn ddieuog o gamymddwyn, ond fe ychwanegwyd y byddai’n derbyn hyfforddiant pellach cyn dychwelyd i’w waith yn llawn amser.